Cafodd y wefan hon ei chreu i helpu ymarferwyr lleol, pobl sy'n creu polisïau a strategaethau, a rheolwyr i ddatblygu ymateb lleol i'r broblem o gwtogi ar dlodi ymhlith plant Cymru. Mae'n cynnig pecyn cymorth sy'n disgrifio proses y gellid ei dilyn wrth fynd ati i wneud y gwaith, a chanllawiau i'ch helpu bob cam o'r ffordd.
Cafodd wefan Datrys Tlodi Ymhlith Plant Cymru ei chreu gan fudiad Achub y Plant a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gyda chymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cawsom wybodaeth gan nifer o'n partneriaid ar gyfer y pecyn cymorth. Er mwyn ceisio gofalu bod y safle'n berthnasol i lywodraethau lleol a'u partneriaid, rydyn ni wedi ymgynghori â llawer o gyrff ac wedi gwneud gwaith pwrpasol gyda dau Gyngor: Gwynedd a Rhondda Cynon Taf.
Sut mae defnyddio'r pecyn cymorth
Mae'r pecyn cymorth yn disgrifio'r broses o lunio polisi ar gyfer datblygu ffyrdd lleol o gwtogi ar dlodi ymhlith plant. Gallwch weld y canllawiau a'r cyngor ar gyfer pob un o gamau'r broses drwy glicio ar y dolenni. Gallwch gopïo'r deunydd yn ôl y gofyn, a'i ddefnyddio a'i addasu yn ôl eich gofynion arbennig chi.
Rydyn ni'n argymell eich bod chi'n gweithio trwy'r wyth cam y Broses llunio'r polisi.
Mae'r safle wedi cael ei drefnu i'w gwneud hi mor syml â phosib i chi weithio trwy'r deunyddiau. Mae llawer o adnoddau ar y wefan i'ch cynorthwyo wrth ddewis dulliau gweithredu ar gyfer eich ardal, a'r camau y bydd angen eu dilyn wrth fynd ati i gwtogi ar dlodi ymhlith plant.
- Atebion - set o ddeunyddiau briffio ym maes tlodi ymhlith plant sydd wedi'u hanelu at adrannau (ee, tai). Bydd y deunyddiau'n cynnig cyngor ymarferol ynglŷn â mynd ati i leihau tlodi ymhlith plant yr ardal.
- Dysgu trwy brofiad - cronfa ddata o enghreifftiau o'r ffordd mae pobl eraill yn ymateb i'r her o gwtogi ar dlodi ymhlith plant.
- Dangosyddion - technegau o fesur tlodi ymhlith plant i'ch helpu i ddadansoddi'r problemau lleol a'r dulliau gweithredu y dylid eu blaenoriaethu.
- Man y cynghorwyr - cymorth i Gynghorwyr lleol yn y gwaith o fwrw ymlaen i newid a gwella bywydau plant tlotaf eu hardal.
- Ymchwil ac adnoddau - pecynnau cymorth, hunan-asesiadau, dulliau o roi prawf ar bolisi, ymchwil, asesiadau o effeithiau tlodi ymhlith plant, a chyfleoedd i gael hyfforddiant.
- Fforwm - cyfle i chi drafod a rhannu gwybodaeth am dlodi ymhlith plant ac am y dulliau o gwtogi arno yn yr ardal.
Newyddion