Dangosyddion

Mae'r adran hon yn amlinellu rhai dangosyddion allweddol ar gyfer tlodi plant. Nid darparu arweiniad i asesu anghenion cynhwysfawr yw'r bwriad, ond cynorthwyo i gael darlun lleol o dlodi plant.

Lawrlwytho Monitoring Poverty and Social Exclusion 2011, yr adroddiad blynyddol ar y sefyllfa o ran tlodi ac allgáu cymdeithasol yn y DU, Sefydliad Joseph Rowntree a'r New Policy Institute.
 

Gweld y siart Dangosyddion

Gweld y Data

Rydym yn gweithio ar y rhan hon o'r wefan ar hyn o bryd.

Ar hyn o bryd mae yna sawl dangosydd tlodi plant ar lefel genedlaethol nad ydynt yn cael eu casglu na'u coladu'n aml ar lefel leol. Mae adroddiad Llywodraeth Cymru  mesur llwyddiant yn rhoi fframwaith ar gyfer y mathau o ddangosyddion y gallech eu defnyddio i fonitro tlodi plant yn lleol. Mae'r mynegai amddifadedd lluosog  yn rhoi gwybodaeth ddefnyddio hefyd am dlodi yn lleol.

Mae rhagor o wybodaeth a gasglwyd gan Lywodraeth Cymru hefyd ar gael isod.

 

Beth sy'n Newydd

  • Darllenwch Mesur anghydraddoldebau: Tueddiadau mewn marwolaethau a disgwyliad oes yng Nghymru 2011 gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru yma
  • Cliciwch yma i lawrlwytho Monitor Lles Plant a Phobl Ifanc Cymru 2011. Caiff dangosyddion lles eu cofnodi ar lefel Cymru gyfan ac mae'r ail rifyn hwn yn dechrau cyflwyno cyfres o ddata ar les plant a phobl ifanc y gellir ei defnyddio i olrhain newidiadau dros amser. Mae hefyd yn cynnwys canfyddiadau o'r sail dystiolaeth ehangach a llais y plant a'r bobl ifanc eu hunain. Gweler Monitor 2008 am ddata sydd eisoes wedi'i gyhoeddi.
  • Mae Stats Cymru wedi cyhoeddi Dileu Tlodi Plant yng Nghymru: Diweddariad Cerrig Milltir a Thargedau Tlodi Plant. Ewch  yma i weld y dangosyddion Ystadegau Cenedlaethol ar Dlodi Plant a luniwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gyhoeddwyd ar 25 Tachwedd 2010 yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y DU. Yma gallwch lawrlwytho Dileu Tlodi Plant yng Nghymru: Cynnydd dangosyddion tlodi plant yn erbyn y llinell sylfaen Tachwedd 2010. Cyhoeddiad ystadegol sy'n cyflwyno data ar y 32 o ddangosyddion tlodi plant a ddefnyddiwyd i fonitro cynnydd y Strategaeth Tlodi Plant.
  • Mae ein Map Tlodi Plant yn crynhoi dangosydd 22, Plant sy'n Byw ar Aelwydydd Di-waith. Rholiwch eich llygoden ar draws y map i arddangos y dosbarthiad ledled Cymru.
  • Cliciwch yma i lawrlwytho Monitor Lles Plant a Phobl Ifanc 2008 gan Lywodraeth Cymru.
  • Gallwch adolygu'r ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru a'r cynnydd ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru: Mynegai Plant.
  • Darllenwch ystadegau'r Arolwg Iechyd Cymru Diweddaraf yma.
  • Data ysgolion uwchradd

Isod, mae rhestr o ffynonellau data defnyddiol eraill a all eich helpu i fonitro tlodi plant yn lleol ac yn genedlaethol:

Data ysgolion uwchradd yng Nghymru

Cliciwch ar ysgol yn y rhestr isod i weld ei pherfformiad bandio, sgorau Estyn, canlyniadau TGAU, disgyblion a sefyllfa ariannol.

Cliciwch yma i lawrlwytho taflen ddata ysgolion uwchradd

Powered by Tableau

 

Ymwadiad

Mae mwyafrif y deunydd ar y wefan hon yn destun diogelwch hawlfraint y Goron, oni nodir fel arall. Gellir atgynhyrchu deunydd a ddiogelir gan hawlfraint y Goron (ac eithrio'r Arfbais Frenhinol) am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng heb ofyn am ganiatâd penodol.