Llyfrgell Adnoddau
Mae adran y Llyfrgell yn cynnwys adnoddau amrywiol ar dlodi plant, ynghyd â llawer o faterion eraill yng Nghymru ar lefel y DU, Ewropeaidd a Rhyngwladol.
Bwriad y llyfrgell yw cynorthwyo ymarferwyr o bob maes i godi ymwybyddiaeth, hyrwyddo a rhoi camau gweithredu ar waith i fynd i'r afael â thlodi plant ble'r ydych yn gweithio.
Bydd y llyfrgell yn cynnwys canllawiau ymarfer, pecynnau hyfforddiant, adnoddau addysgol, gwefannau ac adroddiadau. Mae'r adnoddau wedi'u catalogio mewn ffyrdd amrywiol, sy'n eich galluogi i chwilio yn ôl gair allweddol, pwnc a gwlad neu adnodd.
Mae'r Llyfrgell yn gronfa ddata ddatblygedig ac nid yw'n gynhwysfawr. Os ydych chi wedi llunio neu'n gwybod am adnodd y dylid ei gynnwys, rhowch wybod i ni drwy gysylltu â ni yma.
Nid ydym yn gallu darparu cyfleuster chwilio neu'r canlyniadau yn Gymraeg. Os ydych yn chwilio am adnodd Cymraeg neu ddwyieithog, dewiswch y meysydd priodol yn y bocs Iaith.
