Mynd i'r afael â Thlodi Plant

Mynd i'r afael â Thlodi Plant

Mae mynd i'r afael â phob math o dlodi plant yn broses gymhleth a thrawsbynciol. Mae'n gofyn am weithio'n effeithlon mewn partneriaeth ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Tra bod nifer sylweddol o ddulliau yn nwylo Llywodraeth San Steffan, gall Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid allweddol wneud llawer yng Nghymru i helpu i gyflawni'r amcanion tlodi plant a rennir a gwneud cyfraniad hollbwysig at wella cyfleoedd bywyd y plant mwyaf difreintiedig.

Cliciwch yma i ddarllen mwy am Bolisi, Strategaeth a Chanllawiau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant.

Rydym wedi rhannu'r adran hon o'r wefan i bedair adran gyffredinol:

  • Y Broses Bolisi
    Mae'r adran hon yn trafod y broses bolisi i ddatblygu dull lleol o leihau tlodi plant.
  • Symud rhwng dosbarthiadau cymdeithasol
    Ymdrin â phatrymau a'r elfennau sy'n pennu a fydd tlodi'n ailadrodd rhwng ac o fewn cenedlaethau.
  • Uchafu Incwm
    Ymdrin â chynorthwyo cartrefi i ddiwallu anghenion ariannol uniongyrchol ac anghenion adnoddau eraill.
  • Atebion fesul Maes Gwasanaeth
    Cynnig cyfarwyddyd amrywiol ar gyfleoedd i weithredu ar dlodi plant y gall gwahanol feysydd gwasanaethau sector cyhoeddus eu cymryd mewn perthynas â 'saith nod craidd' Llywodraeth Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc.

 

Ail Gynhadledd Genedlaethol Tlodi Plant ac Uwchgynhadledd Plant 2011

Dan gadeiryddiaeth cyn Brif Weinidog Cymru, y Gwir Anrh Rhodri Morgan, a Caitlin Sweeny a Rhian Fish, y ddwy yn 10 oed.

Cliciwch yr eiconau i lawrlwytho'r agenda, gwybodaeth am siaradwyr a chyflwyniadau. Y siaradwyr oedd

  • Anne Crowley - Ymgynghorydd polisi ac ymchwil 
  • Geraldine Murphy - Rheolwr Prosiect Consortiwm Arloesi Teuluoedd yn Gyntaf De-orllewin Cymru
  • Gwenda Thomas - Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • James Pritchard - Pennaeth Achub y Plant yng Nghymru
  • Yr Athro Syr Mansel Aylward CB - Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Seicogymdeithasol ac Anabledd Prifysgol Caerdydd
  • Y Cyng Peter Fox - Arweinydd Cyngor Sir Fynwy a llefarydd CLlLC ar ddysgu gydol oes a sgiliau.
  • Peter Kenway - Cyfarwyddwr y Sefydliad Polisi Newydd 
  • Ross Chamberlain - Cydgysylltydd Datrys Tlodi Plant 
  • Sean O'Neill - Cyfarwyddwr Polisi Plant yng Nghymru 

Roedd y siaradwyr eraill yn cynnwys Llysgenhadon Ifanc Achub y Plant a gyflwynodd eu sylwadau am dlodi plant a'u profiadau ohono i Uwchgynhadledd Genedlaethol Tlodi Plant ym mis Rhagfyr 2010 ac i Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Ionawr 2011. Bu'r Llysgenhadon hefyd yn cyfrannu at anerchiad agoriadol Cynhadledd Ganmlwyddiant y Gymdeithas Chwarae Ryngwladol ym mis Mehefin 2011 ac yn cadeirio Grwp Llywio Gweithredu ar Dlodi Plant Caerdydd (Mawrth 2010 a Rhagfyr 2010).

Roedd y Llysgenhadon Ifanc yn dod o Ysgol Uwchradd Willows, Ysgol Gynradd Moorlands, Ysgol Gynradd Millbank, Ysgol Uwchradd Sant Teilo ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd. 

 

 

Strategaethau Tlodi Plant Awdurdodau Cyhoeddus: Digwyddiad rhwydweithio ac ymgynghori

Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar

  1. Gael barn plant a phobl ifanc ar y strategaethau tlodi plant drafft sydd newydd eu cyhoeddi 
  2. Rhwydweithio i nodi cyfleoedd i awdurdodau cyhoeddus gydweithio i sicrhau canlyniadau gwell i blant a phobl ifanc.

Cynhelir y digwyddiad am ddim hwn yng Ngwesty'r Marriott, Caerdydd rhwng 11am a 3pm ar 29 Mawrth.

Click the icon to download your delegate pack Cliciwch yr eicon i lawrlwytho eich pecyn i fynychwyr


Gweld Map Mwy

Dyma'r sefydliadau sydd wedi'u gwahodd;

  • Llywodraeth Cymru
  • Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Cyngor Chwaraeon Cymru
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Amgueddfa Cymru
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
  • Cyngor Cefn Gwlad Cymru
  • Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Agenda

10:45am        Cyrraedd, te a choffi, top trumps
11:00am        Croeso gan David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru – National Museum Wales
11:15am        Sesiwn 1 – Sicrhau llwyddiant
12:00am        Sesiwn 2 – Adborth pobl ifanc ar eich strategaeth
1:00pm          Cinio
1:45pm          Sesiwn 3 – Sicrhau canlyniadau gyda'n gilydd
2:45pm          Gwerthuso
3:00pm          Cau
 
Sesiwn 1
 
Byddwn yn treulio ychydig o amser yn nodi blaenoriaethau ar gyfer rhannu gwybodaeth a rhai cwestiynau penodol, cyfleoedd neu wahoddiadau i fynychwyr eraill.
 
Sesiwn 2
 
Sesiwn ryngweithiol iawn gyda'r bobl ifanc. Byddwn yn defnyddio gweithgareddau hwyliog a gemau i ganfod
·        eu barn am gamau gweithredu ein strategaethau,
·        pa rai wnaethon nhw feddwl amdanyn nhw hefyd,
·        pa rai roedden nhw'n eu hoffi,
·        pa rai nad oedden nhw'n eu hoffi, a
·        beth arall ddylech chi ystyried ei wneud yn eu barn nhw.
 
Sesiwn 3
 
Mwy o hwyl a gemau! Dyma'ch cyfle i rwydweithio gyda'r awdurdodau eraill, i nodi beth allwch chi ei wneud yn wahanol a chyda'ch gilydd i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc. Mae'r rhwydweithio hwn yn wahanol i'r arfer, rhwydweithio gyda thro annisgwyl i sicrhau eich bod yn aros.