Mynd i'r afael â Thlodi Plant

Gwneud y Gorau o Incwm

Gan ddilyn yr un thema â'r drafodaeth am ddigwyddiadau incwm sy'n sbarduno symudedd cymdeithasol, mae llawer o gyfleoedd i gynorthwyo cartrefi i wneud y gorau o'u hincwm. Wrth gwrs, mae realiti bywyd teulu yn llawer mwy cymhleth na gallu gwahanu digwyddiadau incwm a digwyddiadau demograffig gan eu bod yn cydblethu'n llwyr â'i gilydd. Er enghraifft, mae goblygiadau ariannol yn gysylltiedig â phriodas, genedigaeth, marwolaeth ac ysgariad ac oblygiadau demograffig yn sgil amrywiadau yn sefyllfaoedd ariannol cartrefi.

Tlodi a Gwaith

Mae un neu fwy o bobl yn gweithio mewn mwy na  hanner cartrefi Cymru sy'n byw ar neu islaw 60% o incwm canolrifol y DU. Cyfeirir at hyn fel byw mewn 'tlodi gwaith'. Os ydym wedyn yn edrych ar holl gartrefi Cymru sy'n byw ar 50% neu lai o incwm canolrifol y DU, diweithdra sydd fwyaf cyffredin. Dyma'r berthynas fwyaf sylfaenol rhwng gwaith a thlodi sy'n dangos bod gwaith yn un o brif benderfynyddion statws economaidd gymdeithasol cartrefi.

Ar sail y data incwm cartrefi diweddaraf o 2008-09, mae rhagfynegiadau IFS yn dangos y bydd tlodi cymharol yn 2010-11 tua 300,000 yn is ymysg plant a rhieni oed gwaith nag oedd yn 2008-09. Dywedir fod y duedd hon yn cael ei sbarduno'n bennaf gan y disgwylir i'r incwm net canolrifol a ragwelir ostwng mewn termau real yn ystod y ddwy flynedd dan sylw. Gostyngodd hyn y llinell dlodi ganolrif o 60%. Rhagwelir y bydd tlodi absoliwt yn parhau'n sefydlog ymysg teuluoedd â phlant yn ystod y cyfnod hwn.

Darllenwch fwy am gartrefi diwaith yn Wales Online yma.

Safonau Isafswm Incwm

Beth yw'r Safon Isafswm Incwm? gan Sefydliad Joseph Rowntree ar Vimeo.

Yn 2008, cyhoeddodd Sefydliad Joseph Rowntree y safon isafswm incwm gyntaf ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd. Dros amser, mae newidiadau mewn prisiau yn effeithio ar gost isafswm safon byw ac mae newidiadau mewn normau cymdeithasol yn newid yr 'isafswm' gofynnol. Mae'r astudiaeth hon yn ystyried y naill a'r llall, ac yn diweddaru cyllidebau safonau isafswm incwm tan fis Ebrill 2011.

Mae'r adroddiad yn dangos:

  • Pa incymau sydd eu hangen ar wahanol fathau o deuluoedd yn 2011 i gyrraedd yr isafswm;
  • Faint mae cost isafswm cyllideb cartref wedi codi ers y diweddariad diwethaf yn 2010.

Mae'r canfyddiadau hefyd yn adlewyrchu newidiadau pwysig yn y systemau treth a budd-daliadau.

Cliciwch yma i ddarllen mwy am Safonau Isafswm Incwm Sefydliad Joseph Rowntree ar gyfer y DU yn 2011.

Cyfrifiannell Isafswm Incwm

Ydych chi'n ennill digon i gael safon byw sy'n cyrraedd yr isafswm derbyniol yn y DU? Ewch i gyfrifiannell safon byw Sefydliad Joseph Rowntree i weld.

Yr Isafswm Cyflog

Sefydlwyd yr isafswm cyflog ym 1998 fel rhan o ymgyrch llywodraeth y DU i godi incymau cartrefi drwy waith. Sefydlwyd y Comisiwn Cyflogau Isel fel corff annibynnol yn sgil Deddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998 i gynghori'r Llywodraeth ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae'r tabl isod yn dangos sut y cynyddodd yr isafswm cyflog dros amser ers ei sefydlu.

O

Cyfradd Oedolyn
(gweithwyr 21+ oed)

Cyfradd Datblygu
(gweithwyr 18-20 oed)

Cyfradd 16-17 Oed

Cyfradd Prentis

1 Hydref 2011

£6.08

£4.98

£3.68

£2.60

1 Hydref 2010

£5.93

£4.92

£3.64

£2.50

O

Cyfradd Oedolyn
gweithwyr 22+ oed)

Cyfradd Datblygu
(gweithwyr 18-21 oed)

Cyfradd 16-17 Oed

Cyfradd Prentis

1 Hydref 2009

£5.80

£4.83

£3.57

-

1 Hydref 2008

£5.73

£4.77

£3.53

-

1 Hydref 2007

£5.52

£4.60

£3.40

-

1 Hydref 2006

£5.35

£4.45

£3.30

-

1 Hydref 2005

£5.05

£4.25

£3.00

-

1 Hydref 2004

£4.85

£4.10

£3.00

-

1 Hydref 2003

£4.50

£3.80

-

-

1 Hydref 2002

£4.20

£3.60

-

-

1 Hydref 2001

£4.10

£3.50

-

-

1 Hydref 2000

£3.70

£3.20

-

-

1 Ebrill 1999

£3.60

£3.00

-

-

Cliciwch yma i lawrlwytho adroddiad 2011 y Comisiwn Cyflogau Isel 2011.

Ailddosbarthu cyfoeth drwy Dreth a budd-daliadau

Noder nad yw hwn yn faes datganoledig o lywodraeth. Mae Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i lobïo a dylanwadu ar benderfyniadau llunio polisi cenedlaethol yn y maes hwn, ond nid oes gan Lywodraeth Cymru bwerau datganoledig ar hyn o bryd i greu ei pholisi treth neu fudd-daliadau ei hun.

Ochr yn ochr â'r isafswm cyflog, mae system treth a budd-daliadau'r DU wedi cael dylanwad mawr ar incwm y cartrefi tlotaf.

Mae'n rhaid ystyried trethi a budd-daliadau fel dwy ochr yr un geiniog os ydym am edrych ar yr egwyddor o ailddosbarthu cyfoeth drwy'r wladwriaeth. Yn 2007-08:

· roedd gan yr un o bob pump tlotaf o gartrefi incwm blynyddol gros cyfartalog o £11,105 ar gyfartaledd, ac yn talu £4,302 y flwyddyn mewn trethi, sef cymhareb o 38.7%. Mae budd-daliadau a chredydau treth yn cyfrif am £6,453 o incwm gros cyfartalog o £11,105 yr un o bob pump tlotaf o gartrefi. Roedd incwm preifat o ffynonellau fel enillion, pensiynau preifat a buddsoddiadau yn £4,651 ar gyfartaledd. Roedd yr un o bob pump tlotaf o gartrefi'n amlwg yn fuddiolwyr net o drethi a budd-daliadau gwerth £2,151 y flwyddyn ar gyfartaledd yn 2007-08.

· roedd gan yr un o bob pump cyfoethocaf o gartrefi incwm blynyddol gros cyfartalog o £74,247, ac yn talu £25,926 mewn treth, sef cymhareb o 34.9%. Derbyniodd yr un o bob pump cyfoethocaf o gartrefi £1,666 y flwyddyn mewn incwm gan y wladwriaeth, ac felly maent yn gyfranogwyr net at goffrau'r Llywodraeth, gan gyfrannu £24,259 y flwyddyn ar gyfartaledd.

Mae'r dadansoddiad syml uchod yn dangos mai cyfradd treth net yr un o bob pump tlotaf yw -46% o'u hincwm gwreiddiol. Mae'r rhif negyddol yn adlewyrchu eu bod yn fuddiolwyr net y system dreth a budd-daliadau. Drwy'r un cyfrifiad, mae gan yr un o bob pump cyfoethocaf gyfradd dreth net o +33% o'u hincwm gwreiddiol, sy'n dangos eu bod yn gyfranogwyr net i goffrau treth a budd-daliadau'r DU. Felly, gellid dadlau bod y system treth a budd-daliadau ar y cyfan yn ailddosbarthu cyfoeth o'r cyfoethog i'r tlawd. 

Mae llywodraeth y DU wedi cynnig newidiadau i system budd-daliadau'r DU, sef y Credyd Cynhwysol. Darllenwch 'Realising the full benefits of Universal Credit' am ragor o wybodaeth.

Gofal Plant

Mae Achub y Plant wedi cynnal ymchwil yn ddiweddar sy'n archwilio'r cysylltiad rhwng cartrefi incwm isel â gofal plant.

Cliciwch yma i weld rhai amcangyfrifon o gostau tlodi plant yn ôl ardal Awdurdod Lleol.

Yn 2004, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Darpariaeth Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru - Astudiaeth o Ddefnydd, Barn a Phrofiadau Rhieni, astudiaeth sy'n darparu gwybodaeth am ddefnydd, barn a phrofiadau rhieni o ddarpariaeth gofal plant a blynyddoedd cynnar. Comisiynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau y Ganolfan Genedlaethol er Ymchwil Gymdeithasol i gynnal astudiaeth ar yr un adeg ag y comisiynwyd astudiaeth o ddefnydd gofal plant yn Lloegr gan yr Adran Addysg a Sgiliau.

Mae Strategaeth Gofal Plant Cymru - Ar gyfer Plant y mae Gofal yn nodi'n fanylach sut roedd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â'r heriau i sicrhau bod plant yn cael cychwyn cadarn mewn bywyd fel maent yn ei haeddu.

Er nad yw Awdurdodau Lleol yn darparu ar y cyfan, ers 2006 mae'n ofynnol i bob cyngor gynnal asesiad o ddigonolrwydd gofal plant yn ei ardal o dan ddyletswyddau a gyflwynwyd gan Ddeddf Plant 2006.

Cynhaliodd Llywodraeth Cynulliad Cymru adolygiad o ofal plant ym mhob un o 22 Awdurdod Lleol Cymru yn 2010. Gwelodd ddiffyg dealltwriaeth o ble'n union y mae angen gofal plant i gefnogi cyflogaeth, a diffyg cefnogaeth ar gyfer plant anabl, neu rai ag anghenion ychwanegol.

Mae cysylltiad cryf iawn ledled Cymru rhwng y ddarpariaeth gofal plant a thlodi. Mae llai o ofal plant mewn ardaloedd o amddifadedd uchel, sy'n creu cylch dieflig o anallu i weithio a risg gynyddol o gartrefi yn dioddef neu'n parhau i ddioddef tlodi. Ym Mlaenau Gwent mae'r ddarpariaeth leiaf yng Nghymru, gyda dim ond un lle gofal plant fesul 23 o blant, sy'n golygu cost amcangyfrifedig o £4.8 miliwn i'r economi leol mewn enillion heb sôn am ddim arall, gan nad yw rhieni'n gallu gweithio oherwydd anawsterau gofal plant. Blaenau Gwent hefyd yw'r Awdurdod Lleol gyda'r gyfran uchaf o blant yn byw mewn cartrefi mewn Tlodi difrifol (50% o'r canolrif). Hefyd, gweler Plant mewn tlodi difrifol yng Nghymru: agenda ar gyfer gweithredu

Nododd adolygiad y llywodraeth yn 2010 7 blaenoriaeth gofal plant

  • Sicrhau bod digon o ofal plant o ansawdd da ym mhob ardal
  • Datblygu seilwaith, gan gynnwys cysylltiadau â phrosiectau adfywio a chymunedol
  • Patrymau mwy hyblyg a newidiol i ddiwallu anghenion rhieni
  • Cefnogi mentrau gofal plant
  • Gwella sgiliau a denu mwy o weithwyr gofal plant - mae 18,978 yn y sector yng Nghymru, 2,400 o fusnesau a 2,000 o warchodwyr plant
  • Gwell gwybodaeth i rieni o ran yr opsiynau a'r cyllid sydd ar gael
  • Rhaglenni 'cydgysylltiedig' i ddiwallu anghenion lleol a darparu ansawdd cyson

Cyfrifiannell cyfoeth

Pa mor gyfoethog ydych chi o gymharu â phawb arall yn y DU? Ydych chi'n teimlo'n eithaf cefnog, braidd yn dlawd neu'n gymharol gyffredin? Mae'n gwestiwn digon syml, ond efallai y bydd yr ateb yn eich synnu. Mae gwefan IFS yn cynnig cyfrifiannell,  'Where Do You Fit In?' Rhowch nifer y bobl sy'n byw yn eich cartref, eu hincwm (ar ôl treth) a'r dreth cyngor rydych yn ei thalu, a bydd yn dweud wrthych beth yn union yw'ch safle yn nosbarthiad incwm y DU.

Cynhwysiant Ariannol

Mae'n cynnwys mynediad i gyfleusterau bancio fforddiadwy a chyfrifon cynilo sy'n rhoi adenillion rhesymol ar fuddsoddiad a chyfrifon cyfredol sy'n cynnig cyfleoedd i deuluoedd dalu am nwyddau a gwasanaethau ar-lein, gan gynnwys trefnu debydau uniongyrchol a gorchmynion sefydlog i sicrhau bod biliau'n cael eu talu ar amser ac nad ydynt yn derbyn cosbau ychwanegol neu ffioedd llog.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth Cynhwysiant Ariannol a Chynllun Gweithredu cysylltiedig i nodi'r gwaith sydd angen i Lywodraeth Cymru ei wneud mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid perthnasol, er mwyn mynd i'r afael â'r problemau sy'n gysylltiedig ag allgau ariannol.

Undebau Credyd

Mae allgau ariannol a mynd i'r afael â thlodi, yn enwedig tlodi plant, wedi bod yn faterion gwleidyddol allweddol ers 1997 ac mae pwysigrwydd undebau credyd wrth fynd i'r afael â'r materion hyn wedi bod yn thema gyson i'r llywodraeth.

Datblygwyd y syniadau a'r gwerthoedd sy'n ganolog i waith undebau credyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ym Mhrydain, roedd yr undebau'n ffrwyth llafur arloeswyr fel Robert Owen. Yn yr Iwerddon, sefydlwyd yr undeb credyd cyntaf yn 1958 a bellach mae oddeutu 50% o'r boblogaeth yn perthyn i undeb credyd. Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, mae Undebau Credyd wedi cymryd cryn amser i wneud eu marc. Cymdeithas Undebau Credyd Prydain Cyf (ABCUL) yw'r brif gymdeithas fasnach ar gyfer undebau credyd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Mae Undebau Credyd yn marchnata eu hunain fel cydweithfa aelodaeth sy'n cynnig gwasanaethau ariannol hygyrch a fforddiadwy ar ffurf benthyciadau llog isel a ffordd ddiogel a chyfleus o gynilo. Gall y gwasanaeth gynnwys cyfrifon credyd, cyngor ar reoli dyled a chyfrifon cynilo ar gyfer y Nadolig.

Mae undebau credyd yng Nghymru yn cynnig mwy a mwy o wasanaethau fforddiadwy a hygyrch mewn cymunedau difreintiedig. Ym mis Rhagfyr 2010, cyhoeddoddd Llywodraeth Cynulliad Cymru Codi'r Proffil: Ymateb i'r Her, sef Cynllun Gweithredu tair blynedd ar gyfer cefnogi sector undebau credyd Cymru.

Mae Sleeping giants: unlocking the potential of credit unions in Wales gan yr Athro Mark Drakeford yn honni bod angen canolbwyntio ar ddarpar aelodau nad yw banciau a chymdeithasau adeiladau yn dymuno neu'n gallu eu gwasanaethu, yn hytrach na chystadlu â gwasanaethau ariannol prif ffrwd, ac ar bwyslais newydd ar gadw'r aelodau hynny ar ôl eu recriwtio os yw undebau credyd Cymru am gael dyfodol cynhyrchiol.

Benthyca Carreg Drws

Mae credyd cartref, neu fenthyciadau carreg drws, yn golygu benthyg arian lle mae'r benthyciwr yn galw yn eich cartref i gasglu ad-daliadau. Er mwyn rhoi benthyg arian yn gyfreithlon, mae'n rhaid i chi feddu ar drwydded y Swyddfa Masnachu Teg (OFT). Mae pobl sy'n rhoi benthyg arian heb drwydded yn torri'r gyfraith. Fe'i gelwir yn fenthycwyr arian didrwydded. Cliciwch yma i weld gwefan Cyngor ar Bopeth am ragor o wybodaeth.

Premiwm Tlodi

Mae'r teuluoedd tlotaf yn y DU yn talu prisiau uwch na theuluoedd mwy cefnog am angenrheidiau sylfaenol fel nwy, trydan a bancio. Gall y costau i deuluoedd tlawd wrth gael gafael ar arian a chredyd, ac wrth brynu nwyddau a gwasanaethau, arwain at 'bremiwm tlodi' o tua £1,000 - 9 y cant o incwm gwario teulu cyffredin.

Hefyd, darllenwch The UK Poverty Rip Off.

Llythrennedd Ariannol

Mae llythrennedd ariannol ar ei lefel fwyaf sylfaenol yn fesur o allu person i ddeall sefyllfa ariannol y cartref. Yn fwy penodol, mae'n cyfeirio at y gyfres o sgiliau a gwybodaeth sy'n galluogi unigolyn i wneud penderfyniadau gwybodus ac effeithiol drwy eu dealltwriaeth o faterion ariannol.

Er bod llythrennedd ariannol yn ymwneud yn bennaf â chyfres o sgiliau oedolion ar lefel y cartref, mae'n bwysig yng nghyd-destun tlodi plant oherwydd bod gallu rhieni i wneud penderfyniadau gwybodus am y defnydd gorau o adnoddau'r cartref yn effeithio'n uniongyrchol ar les unrhyw blentyn yn y cartref. Yn amlwg, mae hefyd yn bwysig cydnabod bod angen hefyd i blant a phobl ifanc fod yn llythrennog yn ariannol. Mae llythrennedd ariannol yn dechrau gyda sgiliau sylfaenol a'r Blynyddoedd Cynnar drwy eu holl yrfa addysgol i'w cynorthwyo i adael yr ysgol gyda'r sgiliau llythrennedd ariannol priodol.

Yng Nghymru, cyhoeddwyd y Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol i Gymru yn 2001 a Codi lefel llythrennedd a rhifedd yng Nghymru drwy gyd-destun llythrennedd ariannol yn 2007. Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio cyfres o adnoddau Llythrennedd Ariannol i'w defnyddio fel rhan o Fframwaith ABCh yng Nghyfnod Allweddol 4.

Yn 2004, arianodd yr Adran Addysg a Sgiliau yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol i gynnal archwiliad o'r adnoddau sydd ar gael i gefnogi llythrennedd ariannol. Lawrlwythwch Audit of Financial Literacy Resources yma. Sefydlwyd Financial Literacy Resource Centre yn sgil yr archwiliad

A yw'r CFS yn ceisio gwella Llythrennedd Ariannol?

Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol

Lansiwyd y gwasanaeth cynghori ariannol ar 4 Ebrill 2011.

Fe’i hysbysebir fel gwasanaeth diduedd am ddim i helpu pawb i wneud y gorau o'u harian. Bydd y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn helpu pobl i wneud y penderfyniadau ariannol cywir a’u rhoi ar waith, drwy roi cyngor ar-lein yn moneyadviceservice.org.uk ar y ffôn ar 0300 500 5000, ac wyneb yn wyneb ledled y DU drwy rwydwaith cenedlaethol.

Nod y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yw chwyldroi’r ffordd y mae pobl yn y DU yn meddwl am eu harian ac yn ei reoli. Dengys ymchwil bod pobl yn teimlo’n fwy cadarnhaol os ydynt yn teimlo bod eu harian dan reolaeth ac yn teimlo’n fwy cadarnhaol a hapus.

Tlodi Tanwydd

Mae’r Llywodraeth yn ystyried bod cartrefi mewn ‘tlodi tanwydd’ os ydynt yn gorfod gwario mwy na 10% o incwm y cartref ar danwydd i gadw eu cartref mewn cyflwr ‘boddhaol’. Mae’n fesur sy’n cymharu incwm gyda’r hyn y ‘dylai’r’ costau tanwydd fod, yn hytrach na chostau gwirioneddol tanwydd. Cyfuniad o nifer o ffactorau sy'n pennu a yw cartref mewn tlodi tanwydd ai peidio, ond y tri amlwg yw:

  • Cost ynni.
  • Effeithlonrwydd ynni yr eiddo (ac felly, yr ynni sydd ei angen i wresogi a phweru’r cartref)
  • Incwm y cartref..

I ddarllen mwy ewch i wefan NEA Cymru.

Cynhwysiant Digidol

Cymerodd Capten Cooke 2 flynedd a 320 diwrnod i hwylio i Awstralia a dychwelyd gyda’r newyddion o’r hyn a welodd yno. Ddoe, lanlwythwyd 25 awr o gynnwys newydd ar YouTube bob munud o’r dydd. Trosglwyddwyd 500 ecsabeit o wybodaeth yn ddi-dor ledled y byd, cyfnewidwyd mwy na 2.5 biliwn o funudau ffôn symudol ledled Ewrop a chyflawnwyd miliynau o chwiliadau rhyngrwyd. Dyma realiti'r byd digidol yr ydym yn byw ynddo. Mae cael eich allgau o’r byd digidol yn gwneud ei bywyd yn dlotach.

Mae gallu pobl i ddefnyddio technolegau newydd mor bwysig â darllen ac ysgrifennu. Mae unigolion nad ydynt â’r sgiliau hynny yn debygol o gael eu difreinio'n economaidd ac yn gymdeithasol. Mae’n agenda sy'n ymwneud â phobl a gwella’u bywydau, gallu cyfathrebu’n haws; cael nwyddau’n haws ac am brisiau is ac am allu cael mynediad i wasanaethau cyhoeddus yn haws. Mae cynhwysiant digidol yn ymwneud hefyd â lleihau ynysu cymdeithasol. Mae’n ymwneud â sicrhau bod pobl yn gallu elwa, fel dinasyddion a defnyddwyr.

Yn 2009, ni chanfu pwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin unrhyw dystiolaeth bod allgau digidol yn llawer uwch neu o wahanol natur yng Nghymru o gymharu â gweddill y DU, er ei bod yn amlwg bod ffactorau sy'n berthnasol iawn. Er enghraifft, siom oedd sylwi nad oedd anghenion siaradwyr Cymraeg wedi'u hystyried yn Digital Inclusion Action Plan ac argymhellwn fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystyried argymhellion Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ofalus o ran anghenion siaradwyr Cymraeg.

Mae'n rhaid i gynhwysiant digidol gynnwys mynd i'r afael â nifer o wahanol faterion. Gall pobl gael eu heithrio o'r oes ddigidol oherwydd:

  • Nad oes ganddynt y sgiliau a'r ddealltwriaeth i gael mynediad i'r rhyngrwyd neu i ddefnyddio dulliau cyfathrebu electronig ac efallai nad ydynt yn deall y cyfleoedd fyddai ar gael iddynt o gael mynediad. Gallai hyn hefyd fod oherwydd diffyg uchelgais a hyder gydag effaith benodol ar bobl hŷn ac ar bobl mewn ardaloedd difreintiedig;
  • Ni allant fforddio'r cyfarpar a'r hyfforddiant sydd ei angen i gael mynediad i'r rhyngrwyd, neu dim ond o bryd i'w gilydd y gallant wneud hynny;
  • Nid oes ganddynt fynediad i fand-eang, oherwydd nad yw ar gael yn yr ardal leol - ffactor sy'n cael ei amlygu'n aml mewn perthynas ag ardaloedd gwledig, ond gall fod yn berthnasol mewn ardaloedd trefol hefyd.

Ym mis Rhagfyr 2010, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Sicrhau Cynhwysiant Digidol: Fframwaith Strategol ar gyfer Cymru. Mae'r strategaeth yn nodi'n glir y bwriad i ddangos arweiniad strategol clir, ond mae'n dweud mai dim ond drwy ymdrechion cydunol y sector preifat, y trydydd sector a'r sector cyhoeddus y gellir gwneud cynnydd, ac ni all Llywodraeth Cymru wneud hynny ar ei phen ei hun.

Canolfan Byd Gwaith

Content to follow