Mynd i'r afael â Thlodi Plant
Mynd i’r afael â Thlodi Plant Proses Polisïau Symudedd Cymdeithasol Gwneud y Gorau o Incwm Atebion yn ôl Maes Gwasanaeth
Proses Polisiau
Mae gan Awdurdodau Cyhoeddus yng Nghymru ddyletswydd i fynd i'r afael â thlodi plant fel y nodir ym Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Mae'r mesur yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau a enwir gyhoeddi ac adolygu strategaeth tlodi plant yn rheolaidd. Am ragor o wybodaeth am y mesur, cliciwch yma.
Mae'r dudalen hon yn rhoi crynodeb o'r broses polisi i ddatblygu dull lleol o leihau tlodi plant a gellir ei ddefnyddio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill neu o fewn sefydliad. Mae'r broses wedi'i datblygu o'n gwaith gyda Chyngor Gwynedd a Chyngor Rhondda Cynon Taf, canllawiau polisi perthnasol wedi'i groesgyfeirio â chanllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru. Mae'r broses yn berthnasol i waith pob awdurdod cyhoeddus sy'n mynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru.
Gellir defnyddio'r 8 cam ar gyfer lleihau tlodi plant i ddatblygu'ch dull strategol ymhellach, cynllunio camau gweithredu a llunio'ch adolygiad blynyddol.
Cam 1: Cyflwyno'r Achos
Mae effaith tlodi plant yn effeithio ar bob agwedd o waith awdurdodau cyhoeddus a'u partneriaid, e.e. iechyd, gofal cymdeithasol, cyllid, tai, addysg, cyfiawnder troseddol, chwaraeon, celfyddydau ac ati. Felly, dylid mynd ati i geisio lleihau tlodi plant drwy weithio mewn partneriaeth. Mae Cam 1 yn ymwneud ag argyhoeddi pobl allweddol o'r angen i weithredu'n lleol. Bydd yr adrannau cost tlodi plant ac atebion yn eich helpu i wneud hyn.
Cam 2: Cael Gafael ar y Sail Dystiolaeth
Mae'r cam hwn yn ymwneud â chasglu'r dystiolaeth sydd ar gael ar broblemau sy'n ymwneud â thlodi plant er mwyn gallu cyflwyno achos cryf dros weithredu lleol. Dylai gwybodaeth mewn asesiadau o anghenion lleol a "Monitor Lles Plant" Llywodraeth Cymru ddarparu'r wybodaeth ofynnol. Mae'n hadran dangosyddion byd-eang a rhannau hunanasesu sector penodol Datrys Tlodi Plant yn cynnwys data a chyngor defnyddiol. Mae ein hadrannau nod craidd yn rhoi dolenni i ffynonellau data allanol a deunydd astudiaethau achos.
Er mwyn gwybod lle i ddechrau a pha dystiolaeth sydd angen i chi chwilio amdani, mae'n rhaid i chi benderfynu pa ganlyniadau rydych am eu cael a gweithio'n ôl o hynny i benderfynu sut rydych am sicrhau'ch canlyniadau a sut byddwch yn monitro llwyddiant. Mae hyn yn golygu mabwysiadu dull Atebolrwydd yn Seiliedig ar Ganlyniadau (RAB) o gynllunio a chyflawni, a gallwch ddarllen mwy am hynny yma.
Cam 3: Sefydlu Grŵp Datblygu Tlodi Plant
Er mwyn sicrhau bod tlodi plant yn parhau yn flaenoriaeth, dylid sefydlu grŵp o benderfynyddion allweddol. Fel rhan o'r broses gynllunio cynlluniau plant a phobl ifanc, sefydlodd llawer o Bartneriaethau Plant a Phobl Ifanc grwpiau o dan nod craidd 7 sy'n canolbwyntio ar dlodi plant.
Yn ddiweddar, pwysleisiodd Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal y saith nod craidd. Rydym yn awgrymu bod grwpiau cyflawni Teuluoedd yn Gyntaf yn ystyried cyfresi dysgu o gwmpas Nod Craidd 7 a bod y grwpiau clwstwr Cymunedau yn Gyntaf newydd yn rhoi cydnabyddiaeth benodol i waith Nod Craidd 7 yn eu strwythurau tîm. Bydd hyn yn gwneud cydweithio rhwng cynlluniau gweithredu a gwaith monitro Canlyniadau'n gydgysylltiedig yn haws. Un o brif swyddogaethau'r grŵp Nod Craidd 7 fydd cefnogi a chynnal ymwybyddiaeth o ddarpariaeth y blaenoriaethau Nod Craidd 7 a nodwyd i leihau tlodi plant yn y pedwar cynllun statudol ac fel rhan o agenda gwrth-dlodi Llywodraeth Cymru.
Dyma'r pedwar cynllun statudol ar hyn o bryd:
- Cynllun plant a phobl ifanc
- Cynllun iechyd, gofal cymdeithasol a lles
- Cynllun diogelwch cymunedol
- Cynllun datblygu leol
Fodd bynnag, rydym yn deall bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddiwygio'r ddyletswydd ar Awdurdodau Lleol i gyhoeddi'r cynlluniau hyn yn ôl Deddf Plant 2004.
Cam 4: Cynnwys Rhanddeiliaid
Mae gan lawer o bobl gyfraniad i'w wneud at y gwaith o fynd i'r afael â thlodi plant, o blant a phobl ifanc, i aelodau'r gymuned, i fusnesau lleol, i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol a'r rhai sy'n gweithio ym myd addysg a'r system cyfiawnder troseddol. Mae'r cam hwn yn ymwneud â nodi pwy yw'r rhanddeiliaid perthnasol yn lleol a chasglu eu safbwyntiau ar dlodi plant, nodi bylchau mewn darpariaeth gwasanaeth ar gyfer plant a phobl ifanc a syniadau am ffyrdd i lenwi'r bylchau hynny.
Mae'r adran Nod Craidd 5 yn amlygu'r amcanion o:
- ddymchwel rhwystrau i gyfranogiad plant a phobl ifanc
- pwysigrwydd cyfranogiad plant a phobl ifanc wrth ddatblygu polisi tlodi plant
Cam 5: Drafftio'r Cynllun
Mae angen cynllun gweithredu sy'n:
- Dwyn ynghyd dystiolaeth ansoddol a meintiol leol
- Nodi partneriaid lleol, blaenoriaethau a grwpiau targed
- Nodi canlyniadau a mesurau llwyddiant clir
- Nodi unigolion atebol i roi camau gweithredu ar waith
Hefyd, gall yr offer hunanasesu tlodi plant sydd ym mhob un o'r sectorau gwasanaeth eich helpu i nodi camau gweithredu mewnol amrywiol a fydd yn sicrhau lle mwy canolog i'ch gwaith i brif ffrydio tlodi plant ac atebolrwydd i blant ledled eich sefydliad. Ewch yn ôl i'r hafan a defnyddiwch eich porth gwasanaeth i ddod o hyd i'ch offer hunanasesu.
Cam 6: Ymgynghori
Mae'r cam hwn yn adeiladu ar gam 4, "Cynnwys Rhanddeiliaid", drwy ymgynghori ar y camau gweithredu drafft a sicrhau cefnogaeth ar gyfer yr amcanion.
Cam 7: Rhoi'r Cynllun Gweithredu ar Waith
Mae dull cadarn o reoli prosiect yn hollbwysig i weithredu cynllun yn llwyddiannus. Bydd yr hunanasesiad tlodi plant yn cynorthwyo gyda'r broses o gynllunio camau gweithredu ac wrth fonitro cynnydd. Defnyddiwch y porth sector yn yr hafan gael gafael ar yr offer hunanasesu ar gyfer eich sefydliad.
Cam 8: Monitro, Gwerthuso ac Adolygu
Mae'r cam hwn yn ymwneud â mesur perfformiad yn erbyn y canlyniadau a'r targedau a nodwyd. Dylid monitro ffactorau allanol a allai effeithio ar dlodi plant hefyd (e.e. deddfwriaeth newydd). Dylech gynnal asesiad o effaith tlodi plant er mwyn llywio'ch gwaith yn y maes hwn. Gall hunanasesu helpu hefyd, yn enwedig hunanasesiad Atebolrwydd i blant. Mae'r offer hyn ym maes gwasanaeth perthnasol y wefan. Ewch yn ôl i'r hafan i ddod o hyd i'ch porth gwasanaeth.
