Mynd i'r afael â Thlodi Plant

Symudedd Cymdeithasol

Mae dealltwriaeth o'r materion a'r ffactorau sy'n achosi symudedd cymdeithasol yn allweddol i weld beth all eich sefydliad ei wneud i fynd i'r afael â thlodi plant.

Mae symudedd cymdeithasol llorweddol yn cynnwys ymfudo daearyddol a symud o un sefyllfa i un arall ar yr un lefel gymdeithasol.

Fodd bynnag, yn yr achos hwn rydym yn cyfeirio at symudedd cymdeithasol fertigol a ddiffinnir fel y graddau y gall statws unigolyn neu grŵp newid o ran safle mewn hierarchaeth gymdeithasol neu statws economaidd gymdeithasol.

Dengys data diweddar, o arolygon carfan genedigaethau'r DU yn bennaf, duedd gyffredinol i symudedd ostwng rhwng cenedlaethau yn y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn awgrymu y bydd mwy o dlodi a thlodi plant ym Mhrydain yn y dyfodol.

Mae astudiaeth ddiweddar Changing Fortunes: income mobility and poverty dynamics in Britain gan Stephen Jenkins, Athro Economeg a Pholisi Cymdeithasol yn Ysgol Economeg Llundain, wedi dangos drwy ddefnyddio data Arolwg Panel Aelwydydd Prydain bod trosiant sylweddol o fewn cenedlaethau ledled y degraddau economaidd gymdeithasol.

Er enghraifft, dengys ymchwil yr athro Jenkins bod 55% o'r degradd tlotaf yn aros yn y degradd tlotaf dros gyfnod o 4 blynedd. Fodd bynnag, mae hynny'n golygu bod 45% o'r degradd tlotaf yn symud i fyny i'r degradd nesaf a 20% o'r rheini i'r nesaf. Ar wahân i ambell i eithriad, mae'r symudiadau yn darfod fwy neu lai i'r tlotaf ar ôl hynny.

Mae'r duedd hon i'w gweld eto oddeutu 60% o ddegraddau economaidd gymdeithasol incwm canolrifol, er bod y niferoedd rywfaint yn wahanol. Mae'r dadansoddiad hwn o fewn cenedlaethau o'r profiad o dlodi yn herio'r farn gyffredin bod isddosbarth o bobl dlawd sy'n atgenhedlu gan fod rhai'n gadael tlodi y tu hwnt i'r trothwy canolrifol o 60% ac yn parhau y tu allan i dlodi.

Fodd bynnag, dengys ymchwil yr Athro Jenkins hefyd bod 30% o unigolion ar neu o gwmpas 60% o incwm canolrifol yn croesi'r trothwy'r ffordd arall, i dlodi mewn unrhyw gyfnod penodol o 4 blynedd. Mae hyn yn awgrymu bod y profiad o dlodi yn cael ei deimlo'n llawer ehangach gan unigolion ledled cymdeithas y DU na'r hyn a dybiwyd yn y gorffennol.

Mae'r astudiaeth yn nodi sawl ffactor sy'n achosi symudedd cymdeithasol unigolion ac aelwydydd ac mae'n nodi bod hyn yn bennaf oherwydd digwyddiadau incwm neu ddigwyddiadau Demograffig.

  • Mae digwyddiadau incwm yn cyfeirio at amrywiadau yn y farchnad lafur ac enillion cysylltiedig prif enillydd y cartref a/neu briod, newidiadau treth a budd-daliadau a chredydau incwm eraill, gan gynnwys llog cynilion ac ati.
  • Mae digwyddiadau demograffig yn cynnwys priodi, ysgaru, genedigaethau a marwolaethau yn y cartref.