Results Based Accountability (RBA™)
RBA
Nid yw Datrys Tlodi Plant yn cynnig hyfforddiant ar Atebolrwydd yn Seiliedig ar Ganlyniadau (RBA™) ond mae yna wybodaeth isod am RBA™. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am RBA™, cysylltwch â ni.
Dull synnwyr cyffredin o ddefnyddio syniadau seiliedig ar ganlyniadau i helpu i wella lles poblogaethau a pherfformiad gwasanaethau yw Atebolrwydd yn Seiliedig ar Ganlyniadau (RBA™). Datblygwyd RBA™ gan Mark Friedman ac mae'n cael ei drafod yn llawn yn ei lyfr, 'Trying Hard Is Not Good Enough'.
Mae RBA™ yn cael ei ddefnyddio gan nifer cynyddol o sefydliadau cyhoeddus a gwirfoddol a phartneriaethau yng Nghymru a'r DU i'w helpu i lywio pethau fel cynllunio partneriaeth, comisiynu a rheoli perfformiad. Lluniwyd y ddogfen isod gan Richard Morton o'r Uned Cymorth Partneriaeth. Mae'r ddogfen yn amlinellu beth yn union yw RBA™ a sut mae'n cael ei ddefnyddio yng Nghymru.
I weld y Canllaw ar Weithredu Atebolrwydd yn Seiliedig ar Ganlyniadau (RBA™), cliciwch yma.
Nodyn Cyfarwyddyd ar Atebolrwydd yn Seiliedig ar Ganlyniadau
Archwilio offer data i gefnogi RBA™
Ym mis Gorffennaf 2010, cynhaliodd yr Uned Cymorth Partneriaeth, mewn cydweithrediad g Uned Ddata Cymru a'r Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol, ddigwyddiadau rhanbarthol yn archwilio'r offer data sydd ar gael i gefnogi RBA™.
