Beth yw Tlodi Plant
Beth yw Tlodi Plant Y 7 Nod Craidd Nod Craidd 1 Nod Craidd 2 Nod Craidd 3 Nod Craidd 4 Nod Craidd 5 Nod Craidd 6 Nod Craidd 7 Cost tlodi plant Grwpiau mewn perygl
Cost Tlodi Plant
Mae gwaith cyfrifo gan Donald Hirsch, Pennaeth Astudiaethau Incwm, Canolfan Ymchwil Polisi Cymdeithasol, Sefydliad Joseph Rowntree, yn dangos bod tlodi plant yn costio o leiaf £25 biliwn y flwyddyn i Brydain.
Mae gwaith ymchwil yn dangos bod y llywodraeth yn gwario £12 biliwn y flwyddyn ar wasanaethau i wneud iawn am ganlyniadau amddifadedd yn ystod plentyndod fel iechyd gwael, cyrhaeddiad addysgol isel, trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae'r Trysorlys yn neilltuo £2 biliwn arall mewn budd-daliadau ac yn colli £5 biliwn mewn cyfraniadau yswiriant gwladol a threthi gan oedolion nad ydynt yn cael swyddi o ganlyniad uniongyrchol i fagwraeth dlawd. Mae'r economi'n colli £8 biliwn arall gan nad yw'r bobl hyn yn gynhyrchiol.
Mae dadansoddiad pellach yn dangos bod tlodi plant yn ychwanegu
- £2.8 miliwn i gyllideb gwasanaethau cymdeithasol,
- £2.7 biliwn i'r GIG,
- £2.9 biliwn i addysg,
- £1.2 biliwn i'r heddlu a'r system cyfiawnder droseddol a
- £2.5 biliwn i wasanaethau eraill.
Dylech hefyd ddarllen 'The Public Service Costs of Child Poverty' a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2008.
Yn yr un modd, mae tlodi plant yn ychwanegu baich cost sylweddol i wariant cyhoeddus yn eich ardal.
Ar sail y gwaith a wnaed gan Sefydliad Joseph Rowntree yn 2008, Llywodraeth yr Alban ac eraill, rydym wedi creu'r papurau cryno canlynol, gan ddefnyddio gwybodaeth gyllidebol leol i ddangos rhai o gostau tlodi plant yn eich ardal. Gallwch ddefnyddio'r papurau hyn fel canllaw i ddangos y gost - ffigurau bras ydynt, nid ffigurau manwl gywir. Er mae'n bosibl cynnal ymarfer mwy cywir. Mae rhai o'r costau rydym wedi'u defnyddio yn seiliedig ar amcangyfrifon 2009/10 felly os oes gennych ffigurau mwy diweddar dylech eu cynnwys yn eich cyfrifiadau. Byddem yn falch o'ch helpu gydag unrhyw elfen o'r gwaith hwn. Gobeithio y byddant o gymorth i chi ddatblygu eich dadl dros weithredu lleol.
Gallwch lawrlwytho 'Estimating the Costs of Child Poverty' o wefan Sefydliad Joseph Rowntree yma.
Mae'r papur yn cynnwys canfyddiadau tri adroddiad a gomisiynwyd yn arbennig ac yn amcangyfrif rhai o'r costau pendant sy'n gysylltiedig â thlodi plant.
