Beth yw Tlodi Plant
Beth yw Tlodi Plant Y 7 Nod Craidd Nod Craidd 1 Nod Craidd 2 Nod Craidd 3 Nod Craidd 4 Nod Craidd 5 Nod Craidd 6 Nod Craidd 7 Cost tlodi plant Grwpiau mewn perygl
Grwpiau Mewn Perygl
Er gwaetha'r cynnydd a wnaed, mae bron i 1 o bob 3 o blant yn y DU yn dal i fyw mewn tlodi. Mae'r gymhareb hon hefyd yn wir am blant sy'n byw yng Nghymru ac yn dangos bod yna lawer o waith i'w wneud os ydym am gyrraedd nod hynod uchelgeisiol y Llywodraeth o ddileu tlodi plant erbyn 2020. Mae tlodi plant ar gynnydd yng Nghymru, wedi codi o 32% yn 2010 i 33% yn 2011 (plant a phobl ifanc sy'n byw mewn cartrefi sydd â 60% o incwm canolrif y DU). O'r 4 rhanbarth yn y DU, Cymru sydd â'r cyfraddau tlodi plant difrifol gwaethaf, sef 14% ledled y wlad ond cyn uched ag 20% mewn rhai ardaloedd o amddifadedd yng nghymoedd y De.
Mae nifer o ffactorau cymhleth ar lefel unigol a chymunedol yn arwain at dlodi plant, ond mae yna rai nodweddion allweddol sy'n rhoi plant a theuluoedd mewn mwy o berygl cyson o fyw mewn tlodi ac amddifadedd sylweddol. Bydd angen i strategaethau lleihau tlodi ystyried pa bolisïau y gellir eu cyflwyno i fynd i'r afael ag amgylchiadau penodol y grwpiau sydd 'mewn perygl' a sicrhau llwybrau cynaliadwy allan o dlodi i bob plentyn.
Mae teuluoedd sydd â'r nodweddion canlynol mewn perygl uwch na'r cyffredin o ddioddef tlodi ac amddifadedd sylweddol:
- Plant mewn teuluoedd lle nad oes neb yn gweithio, lle mae'r risg o dlodi yn parhau'n uchel, sef 58%, sy'n sylweddol uwch na'r cyfartaledd o 22%
- Teuluoedd sydd ag un oedolyn yn gweithio'n rhan-amser
- Plant a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)
- Plant a phobl ifanc sy'n byw mewn tai cymdeithasol
- Plant a phobl ifanc sy'n byw mewn llety dros dro
- Plant mewn teuluoedd cwpl sydd ag un oedolyn yn gweithio'n rhan-amser ac lle mae'r perygl o dlodi yn 44%
- Mae dros draean o deuluoedd lleiafrifoedd ethnig yn byw mewn tlodi, ac mae tlodi ac amddifadedd yn uchel iawn ymysg cymunedau Sipsiwn a Theithwyr
- Ffoaduriaid a cheiswyr lloches
- Mae plant mewn teuluoedd gydag un neu fwy o oedolion anabl neu oedolion sydd â salwch hirdymor yn wynebu perygl uchel o dlodi sef 31%
- Plant a phobl ifanc sy'n gynhalwyr
- Plant a phobl ifanc sydd mewn gofal neu'n gadael gofal
- Mae plant mewn teuluoedd gyda 4 plentyn neu fwy yn wynebu perygl o dlodi sef 40%; a
- Theuluoedd unig riant
- Teuluoedd a phobl ifanc digartref
- Teuluoedd gyda mamau heb gymwysterau
- Plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig
- Mae plant sy'n byw yng nghanol Llundain yn wynebu perygl uchel o dlodi sef 35%.
Ffynhonnell: Cartrefi sy'n is na'r Incwm Cyfartalog 2005-06, data rhanbarthol 2003/04-2005/06.
Gwaith a Thlodi Plant
Mae ychydig dros hanner y plant sy'n byw mewn tlodi yn 2009/10 yn byw mewn teuluoedd sy'n gweithio. Mae'r perygl y bydd plentyn mewn sefyllfa incwm isel yn amrywio'n fawr yn dibynnu ar faint o waith am dâl a wna'r teulu. Oni bai fod holl oedolion y teulu'n gweithio (ac o leiaf un yn gweithio'n llawn amser), mae'r risgiau o fyw mewn teulu incwm isel yn sylweddol: 85% yn achos teuluoedd di-waith, 75% yn achos teuluoedd eraill nad ydynt yn gweithio ac (yn arwyddocaol) 30% yn achos oedolion sy'n gweithio'n rhan-amser.
Mae tri chwarter y plant mewn cartrefi lle nad oes neb yn gweithio yng Nghymru yn byw mewn cartrefi unig riant. Mae'r rhan fwyaf o'r unig rieni ar incwm isel yn ddi-waith. Mewn cyferbyniad, mae rhan fwyaf o'r cyplau incwm isel sydd â phlant â rhywun yn gweithio am dâl. Y canlyniad net yw bod rhan fwyaf o'r plant mewn cartrefi incwm isel naill ai'n byw mewn teuluoedd cwpl lle mae rhywun mewn gwaith am dâl neu'n mewn teuluoedd unig riant nad yw'n gweithio.
Plant o Leiafrifoedd Ethnig
Mae plant o leiafrifoedd ethnig yn wynebu perygl uchel iawn o dyfu mewn tlodi. Daeth adolygiad o ymchwil i dlodi ac ethnigrwydd a gynhaliwyd gan Brifysgol Essex i'r casgliad bod yna wahaniaethau mawr mewn cyfraddau tlodi yn ôl gwahanol grwpiau ethnig. Y grwpiau sydd mewn mwyaf o berygl o dlodi yw pobl Bangladeshaidd, Pacistanaidd a Du Affricanaidd ond mae'r perygl yn uwch na'r cyffredin hefyd i bobl Caribïaidd, Indiaidd a Tsieineaidd. Mae Mwslimiaid yn wynebu peryglon tlodi llawer uwch na grwpiau crefyddol eraill.
Gwelir gwahaniaethau mewn cyfraddau tlodi ar draws y mesurau tlodi (tlodi incwm, amddifadedd sylweddol) ac ar draws is-boblogaethau (pobl hŷn, plant). Mae dros hanner plant Pacistanaidd, Bangladeshaidd a Du Affricanaidd yn tyfu mewn tlodi o gymharu â 19% o blant gwyn. Mae yna gysylltiad agos rhwng hyn ac anfantais y farchnad lafur ac yn arbennig, y rhwystrau sylweddol y mae rhai grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu o ran cael mynediad a datblygu ym myd gwaith. Mae yna wahaniaethau hefyd yn nodweddion teuluoedd tlawd gwahanol grwpiau ethnig. Er enghraifft, cyfran fechan o'r plant Indiaidd, Pacistanaidd a Bangladeshaidd sydd mewn tlodi a ddaw o deuluoedd unig riant ond mae dros dwy ran o dair o blant Du Caribïaidd a Du Affricanaidd sydd mewn tlodi yn dod o deuluoedd o'r fath.
Wrth ddadansoddi i ba raddau mae nodweddion unigol (fel llai o gymwysterau) yn cyfrannu at anfantais o ran cyflogaeth, mae yna rai canlyniadau heb eu hegluro. Er enghraifft, mae gan lawer o bobl Ddu Affricanaidd gymwysterau addysgol da iawn, ond eto mae cyfraddau diweithdra yn uchel ymysg y garfan hon a'r canlyniadau galwedigaethol yn wael. Mae'r 'gosb ethnig' hon yn cynnwys effeithiau gwahaniaethu. Mae'n ymddangos hefyd bod yna 'gosbau ethnig' o ran gallu cael gafael ar fudd-daliadau nawdd cymdeithasol a chymorth ariannol arall.
Mae astudiaeth Joseph Rowntree yn dod i'r casgliad:
- Bod angen i bolisïau fynd i'r afael â gwahaniaethu a rhoi cefnogaeth i gadw swyddi a datblygiad gyrfa.
- Bod angen i bolisïau cynnal incwm ganolbwyntio mwy ar y gyfradd derbyn budd-daliadau ymhlith y rhai sy'n gymwys.
- Y gallai dadansoddiad o incwm ar lefel cartrefi lywio a monitro polisi ar beryglon tlodi i grwpiau lleiafrifoedd ethnig.
- Bod angen dadansoddi llwybrau amrywiol a chymhleth i dlodi ar gyfer grwpiau ethnig gwahanol, ac angen ymchwilio i weld a yw'r profiad o dlodi yn golygu pethau gwahanol i grwpiau gwahanol.
Teuluoedd gydag un neu fwy o oedolion anabl
O'r plant mewn tlodi mewn teuluoedd cyplau heb waith, mae gan y mwyafrif o leiaf un aelod anabl yn y teulu, rhiant anabl fel arfer. Mae plant mewn teuluoedd sydd ag o leiaf un oedolyn anabl yn wynebu perygl uwch na'r cyffredin o dlodi (31%) a dyma yw 700,000 o'r holl blant sydd mewn tlodi. Mae gan dros 20% o blant yng Nghymru o leiaf un rhiant anabl. Er nad yw'r holl blant hyn yn ddifreintiedig, mae rhai ohonynt, o ran safon byw is (ymysg plant mewn tlodi, mae'r gyfran gyda rhiant anabl yn codi i 30%), ac mae ganddynt gyfrifoldebau teuluol ychwanegol a llai o gyfleoedd. Efallai mai dim ond adlewyrchiad o'r cyfraddau uchel o anabledd oedran gweithio yng Nghymru yw'r nifer uchel o blant yn y sefyllfa hon; ond o ystyried faint o blant sydd wedi'u heffeithio, mae'n rheswm grymus dros ddatblygu strategaeth wrth-dlodi gynhwysfawr sy'n cynnwys oedolion o oedran gweithio yn ogystal â phensiynwyr a phlant.
Teuluoedd â phlentyn anabl
Mae ymgyrchwyr hefyd yn dadlau bod cael plentyn anabl yn ffactor risg ar gyfer tlodi plant. Nid yw mesurau cyfredol tlodi plant yn ystyried y costau ychwanegol sydd ynghlwm â magu plentyn anabl gyda chost anabledd yn cael ei amcangyfrif rywle rhwng £68 ac £82 yr wythnos. Mae'r costau ychwanegol hyn yn cynnwys costau teithio a chostau eraill sy'n gysylltiedig ag apwyntiadau a mynd i'r ysbyty, cyfarpar gwely a golchi dillad, dodrefn ychwanegol neu newydd, cyfarpar gwresogi ac arbenigol ac addasiadau. Mae Plant Anabl yn Cyfri Cymru yn dadlau y byddai canran y teuluoedd un rhiant â phlant anabl sy'n byw islaw'r llinell dlodi 8% yn uwch pe byddai'r costau hyn yn cael eu hystyried mewn ystadegau tlodi.
Mae plant o gartrefi incwm isel yn fwy tebygol o gael salwch neu anabledd hirdymor a phroblem iechyd meddwl, sy'n adlewyrchu'r berthynas ddwy ffordd rhwng incwm isel ac anabledd. Mae rhieni plant anabl yn wynebu rhwystrau sylweddol i gael gwaith am dâl. Mae yna heriau sylweddol o ran cyfuno gwaith a gofalu yn cynnwys gallu cael gafael ar ddarpariaeth gofal plant addas, cymryd amser o'r gwaith ar gyfer apwyntiadau a mynd i'r ysbyty, problemau ariannol gyda'r system fudd-daliadau a diffyg dealltwriaeth ymysg cyflogwyr.
Mae Cyswllt Teulu Cymru yn argymell:
- Cynnal adolygiad o'r cymorth ariannol sydd ar gael i deuluoedd plant anabl a chynyddu'r symiau a ganiateir ar gyfer gofal plant i rieni plant anabl trwy'r system Credydau Treth;
- Cynyddu'r cyllid i warchodwyr plant a gweithwyr gofal plant eraill i ddatblygu eu sgiliau a'u profiad o ofalu am blant anabl, i sicrhau cynnydd sylweddol ym mhob math o ddarpariaeth gofal plant i blant anabl ledled Cymru;
- Sicrhau bod pob gweithgarwch ysgol estynedig ar gael i blant anabl;
- Gweithio gyda chyflogwyr, undebau llafur a Cyngor ar Bopeth i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r hawliau ychwanegol sydd ar gael i rieni plant anabl mewn perthynas ag absenoldeb rhieni a gweithio hyblyg, a chynyddu'r nifer sy'n manteisio arnynt;
- Ymgyrchoedd i annog pobl i fanteisio ar fudd-daliadau sy'n targedu teuluoedd â phlant anabl yn benodol;
- Cynyddu gwasanaethau ymweld â'r cartref a chyngor allgymorth am arian i sicrhau bod teuluoedd plant anabl yn gallu manteisio mwy arnynt.
Plant mewn teuluoedd mawr (pedwar plentyn neu fwy)
O gymharu â gwledydd eraill, mae gan y DU un o'r cyfraddau tlodi uchaf ar gyfer plant mewn teuluoedd mawr. Mae cyfran y teuluoedd mawr wedi gostwng dros y 60 mlynedd diwethaf gyda dim ond traean o blant yn byw mewn teulu sydd â thri neu fwy o blant dibynnol a dim ond 10% yn byw mewn teulu sydd â phedwar neu fwy o blant. Fodd bynnag, yn 2004/5, roedd 50% o blant mewn teuluoedd â 4 plentyn neu fwy yn dlawd o gymharu â dim ond 23% o blant mewn teuluoedd un plentyn. Plant o deuluoedd sydd â 4 plentyn neu fwy yw 19% o'r holl blant sy'n dlawd.
Mae rhieni plant mewn teuluoedd mawr yn llai tebygol o fod yn gweithio; yn dod o leiafrifoedd ethnig; yn fwy tebygol o fod wedi cael eu plentyn cyntaf yn ifanc; yn llai tebygol o fod â chymwysterau addysgol ac yn fwy tebygol o fod â phlentyn ifanc. Mae'r holl nodweddion hyn yn gysylltiedig â pherygl uwch o dlodi. Fodd bynnag, mae gan deuluoedd mawr berygl uwch o wynebu tlodi sy'n annibynnol ar yr holl ffactorau hyn. Mae Bradshaw et al (2006) yn dadlau nad yw system fudd-daliadau a threth y DU yn sensitif iawn i anghenion teuluoedd mawr. Er enghraifft, mae budd-dal plant yn cael ei dalu ar gyfradd uwch i'r plentyn cyntaf a'r Credyd Treth Gwaith yn cael ei dalu ar gyfradd safonol waeth faint o blant sydd yn y teulu. Cyflwyno newidiadau i'r system fudd-daliadau a threth yw'r ffordd fwyaf tebygol o leihau tlodi plant mewn teuluoedd mawr, er enghraifft cynyddu Budd-dal Plant i'r un lefel ar gyfer pob plentyn a chynyddu'r budd-dal ar gyfer y trydydd plentyn ac yn y blaen.
