Beth yw Tlodi Plant

Y 7 Nod Craidd

Cyhoeddwyd 7 nod craidd Llywodraeth Cymru gyntaf yn Plant a Phobl Ifanc: Gweithredu'r Hawliau 2004 ac maent yn sail i'r holl waith o lunio polisïau i blant a phobl ifanc yng Nghymru.  Maent yn grynodeb o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC) ac yn cyfrannu at ddull o fynd i'r afael â thlodi plant sy'n seiliedig ar hawliau dynol plant. 

Er bod y 7 nod craidd i gyd yn berthnasol wrth fynd i'r afael â thlodi plant fe welwch y bydd rhai ohonynt yn fwy uniongyrchol berthnasol i'ch maes darpariaeth gwasanaeth chi nag eraill. Er enghraifft, os ydych chi'n gweithio ym myd addysg dylech ddechrau gyda Nod Craidd 2, ac os ydych chi'n gweithio yn y sector iechyd dylech ddechrau gyda Nod Craidd 3.

Mae'r nodau craidd yn seiliedig ar fframwaith hawliau dynol plant felly mae pob un o'r 7 nod craidd yn gysylltiedig â'i gilydd. Ni allwch, felly, ddweud eich bod yn gweithio o fewn ffiniau un o'r nodau craidd yn unig. Yng nghyd-destun ein gwaith i fynd i'r afael â thlodi plant, mae pob un o'r 7 nod craidd yn berthnasol, ond mae Nod Craidd 7 yn ceisio sicrhau nad oes unrhyw blentyn neu berson ifanc o dan anfantais oherwydd tlodi. Cliciwch yma i fynd i dudalen nod craidd 7 Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth am faterion hawliau dynol plant ewch i Hawliau Plant yng Nghymru.

Rydym hefyd yn awgrymu i chi ddarllen ein hadrannau ar cost tlodi plant a'r grwpiau mewn perygl.