Beth yw Tlodi Plant
Beth yw Tlodi Plant Y 7 Nod Craidd Nod Craidd 1 Nod Craidd 2 Nod Craidd 3 Nod Craidd 4 Nod Craidd 5 Nod Craidd 6 Nod Craidd 7 Cost tlodi plant Grwpiau mewn perygl
Nod Craidd 7
Nod Craidd 7: ceisio sicrhau nad yw unrhyw blentyn na pherson ifanc yn ddifreintiedig oherwydd tlodi plant (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, Erthyglau 26, 27).
Cliciwch yma i ddarllen mwy am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Darllenwch y papur briffio llawn
Mae nifer o anfanteision yn wynebu plant a phobl ifanc sydd dan anfantais oherwydd tlodi. Crëwyd y fideo isod gan grŵp o blant a phobl ifanc. Fel rhan o brosiect Yn Fy Iard Gefn – Annog Newid Cymunedol a hwyluswyd gan Achub y Plant, nododd y grŵp hwn sawl enghraifft o’r cyfyngiadau y maen nhw’n eu hwynebu yn eu cymunedau o ran cyfleoedd bywyd, mynediad i wasanaethau a’r rhwystrau i gymryd rhan.
Ysgol Uwchradd Willows a Grŵp Ieuenctid Gogledd Trelái gan Ross Chamberlain ar Vimeo.
Mae’r CCUHP yn nodi bod gan blant a’u teuluoedd yr hawl i gael cymorth gan y llywodraeth os ydynt yn dlawd neu mewn angen, a bod gan bob plentyn yr hawl i gael safon byw sy’n ddigon da i ddiwallu ei anghenion corfforol a meddyliol. Rhaid i’r llywodraeth wneud yn siŵr nad yw’r rhai sydd dan fygythiad mwyaf o dlodi’n cael eu hallgáu na’n wynebu rhagfarn nac unrhyw anfantais arall.
Diffiniad yr Undeb Ewropeaidd o dlodi plant yw...... “having resources (material, cultural, social) so limited as to exclude them from the minimum acceptable way of life in the member states in which they live”.
Mae byw mewn tlodi’n groes i nifer o Hawliau Dynol Plant.
Plant a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
Mae’r term 'NEET' yn disgrifio’r garfan ystadegol o bobl ifanc nad ydynt mewn unrhyw fath o addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Cesglir ystadegau ar wahân ar gyfer y grwpiau oedran 16-18 ac 19-24. Yn ymarferol, mae’r ‘grŵp’ NEET yn amrywiol tu hwnt ac yn cynnwys pobl ifanc diwaith sy’n chwilio am waith yn ogystal â’r rhai a elwir yn ‘economaidd anweithgar '. Mae’n bosibl y bydd gan rai aelodau o’r garfan gyfrifoldebau gofalu a/neu anghenion cymhleth eraill amrywiol, a gallai rhai fod yn bobl ifanc NEET mewn cyfnod pontio neu’n rhai sy’n cymryd blwyddyn i ffwrdd.
Mae pobl ifanc yn dod yn bobl ifanc NEET am resymau amrywiol a chymhleth. Mae adroddiad gan y Sefydliad Materion Cymreig yn cyfeirio at y ‘gymysgedd o faterion’ sy’n ymwneud â lleihau niferoedd NEET, ac yn nodi bod y broses o ddod yn berson NEET yn gallu dechrau’n gynnar iawn mewn bywyd.1 Gallai’r ffactorau risg gynnwys pobl ifanc sy’n cael eu cam-drin yn gorfforol a/neu’n emosiynol yn y cartref; pobl ifanc sy’n ymbellhau o weithwyr proffesiynol yn yr ysgol, am ba bynnag reswm; pobl ifanc sydd wedi symud yn raddol i ddarpariaeth ‘ymylol’ fel Uned Atgyfeirio Disgyblion2; pobl ifanc sy’n magu plant yn eu harddegau a lefelau llythrennedd isel3. Gallai llawer o bobl ifanc fod wedi ymddieithrio o addysg, cyflogaeth ac hyfforddiant am eu bod yn wynebu nifer o rwystrau a phroblemau, ond gallai eraill fod wedi dod yn bobl ifanc NEET o ganlyniad i un digwyddiad mewn bywyd, er enghraifft, profedigaeth yn y teulu4.
Mae Gyrfa Cymru’n cynnal arolwg blynyddol o bobl ifanc sy’n gadael ysgolion a gynhelir er mwyn canfod eu cyrchfannau erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn5. Mae hyn yn rhoi amcangyfrif i ni o’r bobl ifanc NEET yn y mis Hydref ar ôl cwblhau Blwyddyn 11 a chaiff ei ddarparu fesul awdurdod lleol. Gellir cael y wybodaeth hon o Fwletin Ystadegol Llywodraeth Cymru ar blant a phobl ifanc NEET6. Caiff disgyblion o ysgolion arbennig eu cynnwys yn yr arolwg hwn, ond nid y rhai sy’n mynychu colegau AB ac ysgolion annibynnol7. Gellir defnyddio’r arolwg i ystyried y lefel cymharol o bobl ifanc NEET fesul awdurdod lleol.
Gweler y data mwyaf diweddar isod:

Dylid nodi bod yna gryn drafod wedi bod ynghylch y manteision a’r anfanteision o ddefnyddio’r term “NEET” wrth gyfeirio at y garfan hon o bobl ifanc. Nid yw rhai sylwebyddion yn gysurus â’r term ‘NEET’ fel enw, nac fel “label” i’r bobl ifanc hyn8.
Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan y felin drafod Demos: For Young People, mae bod yn NEET yn gysylltiedig â llu o ganlyniadau cyflogaeth ac iechyd gwael yn ddiweddarach mewn bywyd, ac mae’r bobl ifanc hyn yn fwy tebygol o droseddu a chael eu carcharu9. Aiff yr adroddiad ymlaen i ddweud bod un amcangyfrif diweddar yn awgrymu bod pob person NEET rhwng 16 a 18 oed yn y DU yn costio bron i £120,000 yn ôl prisiau 2009, sef costau diweithdra, gwasanaethau iechyd a’r system cyfiawnder troseddol, a bod hyn gyfwerth â dweud bod y genhedlaeth gyfredol o bobl ifanc NEET rhwng 16 a 18 oed yn mynd i gostio mwy na £31.3 miliwn dros eu bywydau'10.
Rôl Awdurdodau Cyhoeddus a Phartneriaid
Mae gan y Llywodraeth Leol rôl allweddol i helpu teuluoedd i wneud y mwyaf o’u hincwm trwy fynd i’r afael â chynhwysiant ariannol, cynnal gweithgareddau er mwyn cynyddu’r nifer sy’n derbyn budd-daliadau, gweinyddu budd-daliadau’n effeithlon a mynd i’r afael â diweithdra.
Gellir gweld rhaglen Newsround y CBBC, sy’n cynnwys stori Chantell and Keona, yma
Ar 10 Tachwedd 2009, pasiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
Mae’r Mesur yn gwneud darpariaeth statudol i weithredu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi plant. Mae tlodi plant wedi’i blannu’n ddwfn yn ein diwylliant ac, yn ôl adroddiadau diweddar, yr unig beth sydd wedi gwneud unrhyw wahaniaeth go iawn i leihau nifer y plant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf yw newidiadau i’r system Drethi a Budd-daliadau. Mae angen i ni ganfod ffyrdd newydd o gydweithio er mwyn gwneud gwahaniaeth hirdymor i’r plant a’r bobl ifanc hyn. Mae mynd i’r afael â thlodi plant yn fater cymhleth sy’n cynnwys amrywiaeth eang o ddatrysiadau polisi a chyflawni rhyngberthnasol. Ni fydd unrhyw un polisi nac un sefydliad yn gallu darparu’r datrysiadau i faterion cymdeithasol cymhleth sy’n pontio’r cenedlaethau.
Os ydym am lwyddo i ddatrys tlodi plant, rhaid ysgogi a defnyddio arbenigedd a phrofiad ystod eang o Awdurdodau Cyhoeddus yng Nghymru a gosod fframwaith statudol a fydd yn llywio camau gweithredu ar dlodi plant ledled Awdurdodau Cymru.
Mae’r Mesur Plant a Theuluoedd wedi gosod dyletswydd penodol ar yr Awdurdodau Cymreig a nodwyd isod i gyflwyno strategaeth tlodi plant sy’n dangos sut maent yn bwriadu gwella cyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc. Dyma’r awdurdodau a enwyd;
- Bwrdd Iechyd Lleol.
- Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru.
- Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru.
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru.
- Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
- Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
- Cyngor Celfyddydau Cymru.
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- Cyngor Chwaraeon Cymru.
Yr her fawr nesaf o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus yw dod o hyd i ffyrdd i gau’r bwlch gweithredu yng Nghymru a chyfuno darpariaeth gwasanaethau ar lawr gwlad ar draws yr holl sefydliadau a nodwyd er mwyn creu rhwyd ddiogelwch ddi-dor o wasanaethau gofal a chymorth i blant a phobl ifanc, yn arbennig y rhai sy’n byw yng nghyd-destun tlodi ac amddifadedd.
Dolenni i bolisïau a mentrau -
- Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth Camau Gweithredu Cyffredin y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol
- Dyfodol Teg i’n Plant
- Cynllun Gweithredu Tlodi Plant
- Gweithredu ar Dlodi Plant
- Grŵp Gorchwyl Tlodi Plant
- Mesur Llwyddiant
- Plant mewn tlodi difrifol yng Nghymru: agenda ar gyfer gweithredu
- Cynhwysiant Ariannol
- Tlodi Tanwydd
- Adfywio Cymunedol
- Cyflogaeth
- Sgiliau
- Partneriaethau Cyflogaeth
________________________________________
1 Sefydliad Materion Gwledig, Engaging Wales’ Disengaged Youth, Tachwedd 2010, pennod 4 Ar gael yn Llyfrgell yr Aelodau
2 Ibid, t40
3 Ibid, tudalennau 3 a 46
4 Llywodraeth Cymru, Leighton Andrews (Cyn-Weinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes), Cynllun Gweithredu Ymgysylltiad A Chyflogaeth Pobl Ifanc 2011-2015, Datganiad Ysgrifenedig y Cabinet, 12 Ionawr 2011. [Cyrchwyd 16 Awst 2011]
5 Llywodraeth Cymru, Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) (Blwyddyn i 31 Rhagfyr 2010) , 27 Gorffennaf 2011
6 Ibid
7 Llywodraeth Cymru, Cyrchfannau Disgyblion o Ysgolion yng Nghymru, 2010, a Gyrfa Cymru, Cyrchfannau Disgyblion o Ysgolion yng Nghymru. 2010
8 Datganiad i’r Wasg Llywodraeth Cymru, Nid Enw yw NEET, 8 Chwefror 2010, a’r Sefydliad Materion Gwledig, Engaging Wales’ Disengaged Youth, Tachwedd 2010 [Cyrchwyd 16 Awst 2011
Ar gael yn Llyfrgell yr Aelodau
9 Demos, www.demos.co.uk, Sodha, S., Margo., J, “A generation of disengaged children is waiting in the wings", 2010 [Cyrchwyd 16 Awst 2011]. Am grynodeb o’r adroddiad, gweler tudalennau 13 i 35 o’r adroddiad.
10 Ibid
