Mynd i'r afael â Thlodi Plant

Mynd i'r afael â Thlodi Plant

Mae mynd i'r afael â phob math o dlodi plant yn broses gymhleth a thrawsbynciol. Mae'n gofyn am weithio'n effeithlon mewn partneriaeth ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Tra bod nifer sylweddol o ddulliau yn nwylo Llywodraeth San Steffan, gall Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid allweddol wneud llawer yng Nghymru i helpu i gyflawni'r amcanion tlodi plant a rennir a gwneud cyfraniad hollbwysig at wella cyfleoedd bywyd y plant mwyaf difreintiedig.

Cliciwch yma i ddarllen mwy am Bolisi, Strategaeth a Chanllawiau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant.

Rydym wedi rhannu'r adran hon o'r wefan i bedair adran gyffredinol:

  • Y Broses Bolisi
    Mae'r adran hon yn trafod y broses bolisi i ddatblygu dull lleol o leihau tlodi plant.
  • Symud rhwng dosbarthiadau cymdeithasol
    Ymdrin â phatrymau a'r elfennau sy'n pennu a fydd tlodi'n ailadrodd rhwng ac o fewn cenedlaethau.
  • Uchafu Incwm
    Ymdrin â chynorthwyo cartrefi i ddiwallu anghenion ariannol uniongyrchol ac anghenion adnoddau eraill.
  • Atebion fesul Maes Gwasanaeth
    Cynnig cyfarwyddyd amrywiol ar gyfleoedd i weithredu ar dlodi plant y gall gwahanol feysydd gwasanaethau sector cyhoeddus eu cymryd mewn perthynas â 'saith nod craidd' Llywodraeth Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc.