Pecynnau Cymorth ac Adnoddau
Mae pecynnau cymorth ac adnoddau ar gael i helu chi weithio gyda phlant a phobl ifanc
A ydych chi erioed wedi meddwl y byddai'n braf dod o hyd i rywle lle byddai pob math o adnoddau ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn cael eu rhestru? Boed yn becynnau cymorth, llyfrau am ddamcaniaethau, rhestrau o fudiadau sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, adnoddau codi arian ac yn y blaen? Wel, buom ninnau'n meddwl am y peth hefyd, a dyma fo!
Os ydych chi'n chwilio am fanylion cyswllt mudiadau sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ledled Cymru, cliciwch yma. Efallai y byddant yn medru cynnig cymorth neu rannu arferion da neu syniadau gyda chi.
Os ydych angen arian ar gyfer eich prosiect, ond heb wybod at bwy i droi, cymerwch olwg ar ein Cronfa Ddata Cyllido. Mae'n rhestru mudiadau sy'n ariannu gwaith gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru.
Beth am adnoddau? Cliciwch yma i fynd i'r Adran Adnoddau, sy'n rhestru pecynnau cymorth ac adnoddau ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc, ac mae'n cynnwys adnoddau sydd ar gael i'w lawrlwytho a'i hargraffu o'r Cd-rom hwn, (a hynny am ddim!).
Hefyd wedi ei gynnwys yn yr adran hon mae Arweiniad ar gynnal cyfarfodydd. Mae'r pecyn cymorth yn rhoi cyngor ac awgrymiadau ar gyfer cynal cyfarfodydd gyda phobl ifanc gan gynwys gemau torri iâ ac adeiladu timau.